Mae Llŷn Leisure yn falch o fedru cynnig lleoedd aros gwahanol ar gyfer teuluoedd a busnes yng
Ngwesty Tŷ Newydd, Aberdaron, Penrhyn Llŷn, Gogledd Cymru.
Mae Iain a Wilma yn cynnig croeso cynnes i chi yng Ngwesty Tŷ Newydd. Mae’r gwesty wedi’i leoli ym mhentref hanesyddol del Aberdaron ar Benrhyn Llŷn, Gogledd Orllewin Cymru.
Mae GwestyTŷ Newydd yn edrych yn uniongyrchol dros fae a thraeth tywod Aberdaron, un o’r traethau gorau a mwyaf diogel yn Llŷn. Arhoswch yng nghyfforddusrwydd y Llety “Pedair Seren” yma, lle y gallwch fwynhau golygfeydd gwych, a mwynhau blas cimwch a chranc Enlli a ddaliwyd yn ffres ar eich cyfer, ymlaciwch dros de prynhawn a chacennau cartref a gwyliwch yr haul yn machlud o’r teras gyda diod o’r bar trwyddedig..
Bwytwch yn y bwyty gan fwynhau prydau wedi’u coginio yn defnyddio’r cynhwysion gorau a gynhyrchir yn lleol tra’n mwynhau’r golygfeydd dros y môr tuag at yr ynysoedd.
Ymwelwch â'n gwefan am fanylion pellach a gwybodaeth am sut i archebu lle.
GwestyTŷ Newydd, Aberdaron, Gwynedd, Gogledd Cymru Ffôn: 01758 760207
Gwersyllfan
Yn gyfangwbl ar gyfer Teuluoedd
Amseroedd Agor a Bwcio
Gellir cadw lle
trwy ffonio
(+44) (0)1758 704640
Neu trwy gwblhau'r
ffurflen gyswllt yma.
Dyma'r ychwanegiad ddiweddaraf i deulu Llyn Leisure. Mae Ffermdy hunan arlwyo 5 seren Bodrydd yn eang gyda phwll nofio mewn lleoliad anhygoel ym Mhenrhyn Llŷn. Mae'n edrych dros erddi hardd a 6 erw o lynnoedd pysgota. Mae Bodrydd yn ffermdy cyfforddus, modern a chroesawgar. Mwynhewch y gegin hardd, y lolfa moethus gyda theledu 52 modfedd a phiano cyngerdd, ac orendy gyda golygfeydd anhygoel, 6 ystafell wely mawr a gwresogi dan y llawr drwy'r ffermdy. Dyma'r lle i aduniadau bythgofiadwy a lle i deulu ddod at ei gilydd .
Mae fflat hyfryd y perchennog yn ffinio'r fferm da byw 200 erw a leolir drwy'r giatiau trydan ar safle gwersylla a charafanio ym mhentref Rhoshirwaun ar Benrhyn Llŷn.
Mae'r fflat Aberdaron, sydd ar y llawr cyntaf, wedi ei gynllunio'n fodern a medrus i gynnig encil ar gyfer cyplau sydd eisiau heddwch ac ymlacio, gyda mynediad hawdd i arfordir gwych a thraethau.
Lluniau ©Gwesty Tŷ Newydd Cyf | Hawlfraint©2016 Llŷn Leisure | Cyfreithiol | Rheolau | Map Safle | Polisi Preifatrwydd
Llŷn Leisure & Rural Services Ltd
Bodrydd, Rhoshirwaun, Pwllheli, Gwynedd, Gogledd Cymru LL53 8HR
Ffôn (+44) (0)1758704640
Ffôn Symudol: 07827275949