Neu trwy gwblhau'r
ffurflen gyswllt yma.
Tystebau gan ein cleientiaid:
Gwersyllfan
Yn gyfangwbl ar gyfer Teuluoedd
Amseroedd Agor a Bwcio
Gellir cadw lle
trwy ffonio
(+44) (0)1758 704640
Os byth y byddwch angen adfer eich ffydd yn y natur ddynol, a’ch bod yn edrych am wersyllfan ffantastig, mi fuaswn i’n argymell Llŷn Leisure! Mae’r safle fel pin mewn papur gyda chyfleusterau ardderchog. Mae yna 5 cawod/uned ymolchi sydd i gyd yn cynnwys cawod rhad ac am ddim, sinc, toiled a sychwr dwylo. Mae yna hefyd ystafell rhagorol ar gyfer golchi llestri. Darparwyd ystafell gyda pheiriant golchi dillad a tumble dryer sydd ond yn £1 yr un. Mae yna hefyd rewgell, microdon a bwrdd smwddio am ddim. Mae’r safleoedd carafanio/gwersylla wedi eu gosod allan yn daclus ac mae digon o le. Roedd y safle ei hunan yn ddigon i’m plesio i’n fawr, ond o gyfuno hyn gyda’r croeso cynnes a’r gwasanaeth anhygoel rydych chi’n ei dderbyn gan y perchnogion Yvonne a Huw, mae’r safle yn wirioneddol wych. Does dim yn ormod o drafferth, ac fe wneir i chi deimlo’n hollol gartrefol. Byddwn yn bendant yn dod yn ôl yma flwyddyn nesaf, a dymunwn bob lwc i’r safle!!!
Stacey
Llawer o ddiolch i yvonne a huw am benwythnos gwerth chweil, safle ardderchog, glân a thaclus,cawsom ni hyd yn oed sbin yn ei gar newydd. Mawr ddiolch eto.
Will ac Edwina Davies
Ein tro cyntaf yn gwersylla ar y safle yma, rydym wedi bod yn pysgota yma o’r blaen, am le hardd. Yvonne yw’r perchnnog safle cleniaf a mwyaf cyfeillgar rydyn ni erioed wedi ei chyfarfod. Allwch chi ddim ffeindio unrhyw fai gyda’r cyfleusterau, mae’r tir yn rhagorol, mae’r wyau ffres a’r jam cartref mor flasus :) byddwn yn ôl eto gyda’n hychwanegiad newydd i’r teulu flwyddyn nesaf, ein hwyres gyntaf, a bydd hi yn tyfu i fod gymaint wrth ei bodd yma ag ydyn ni. Y llynnoedd pysgota hefyd :)
Teulu Prescott
Daethom ar draws y safle yma trwy ddamwain wedi gadael safle ofnadwy gerllaw. Cawsom groeso cynnes iawn. Ardal drawiadol, cyfleusterau gwych, difai! Wedi storm ddychrynllyd pan oedden ni wedi mynd allan am y dydd, achubodd y perchnogion ein hadlen a’i diogelu rhag iddi gael ei dinistrio’n llwyr, wedyn ar ôl i ni ddychwelyd, daethant i’n helpu i ddatod yr adlen a symud ein heiddo gwlyb a’u storio nhw i gyd yn eu tai allan i ni. Wir, allwn ni ddim argymell yn uwch! Mae hon yn safle gymharol newydd ac os bu i unrhyw safle haeddu llwyddiant, dyma hi!!! Edrych ymlaen at ein hymweliad nesaf.
Kate Ward
Safle ac ardal ddymunol dros ben i ymweld â nhw, llyn pysgota ar y safle a dim ond 5 munud o’r traeth. Byddwn yn dod yma eto.
(Aelod o’r Clwb o Efrog)
Am le gwych, rhaid i chi ddod yma.
Matt
Wrth ein bodd gyda’r safle yma! Ein trip cyntaf i’r penrhyn a byddwn yn dod yn ôl am fwy cyn gynted ag y gallwn gael amser o’r gwaith! Cyfleusterau gwych a pherchnogion safle hyd yn oed gwell (diolch Yvonne am adael i ni fwydo minstrel a rosie (moch Kunekune), mae Meg wrth ei bodd gyda’r llun moch roesoch chi iddi!). Os ydych chi eisiau safle ardderchog ar gyfer teulu dyma fo...
Steve Pool
Lluniau ©Gwesty Tŷ Newydd Cyf | Hawlfraint©2016 Llŷn Leisure | Cyfreithiol | Rheolau | Map Safle | Polisi Preifatrwydd
Llŷn Leisure & Rural Services Ltd
Bodrydd, Rhoshirwaun, Pwllheli, Gwynedd, Gogledd Cymru LL53 8HR
Ffôn (+44) (0)1758704640
Ffôn Symudol: 07827275949